{"product_id":"yr-hobyd-the-hobbit-in-welsh","title":"Yr Hobyd (The Hobbit in Welsh)","description":"\u003cp\u003e(Welsh Translation of J.R.R. Tolkien's \u003cem\u003eThe Hobbit\u003c\/em\u003e by Melin Bapur Books. Licenced by the Tolkien Estate)\u003c\/p\u003e\u003cp\u003e\u003cbr\u003e\u003c\/p\u003e\u003cp\u003eMewn twll yn y ddaear trigai hobyd...\u003c\/p\u003e\u003cp\u003e\u003cbr\u003e\u003c\/p\u003e\u003cp\u003eHobyd yw Bilbo Baglan sy'n mwynhau bywyd cyfforddus, di-uchelgais, a phrin mae'n teithio ymhellach na phantri ei hobyd-dwll ym Mhen-y-Bag. Ond mae ei fywyd cysurus yn dod i ben un diwrnod pan mae'r dewin, Gandalff, a chwmni o dri chorrach ar ddeg yn ymddangos yn annisgwyl ar garreg ei ddrws i'w gipio ymaith ar daith 'yno ac yn ôl'. Mae cynllun ar droed, sef cyrch i gipio trysor Smawg, draig enfawr a pheryglus iawn.\u003c\/p\u003e\u003cp\u003e\u003cbr\u003e\u003c\/p\u003e\u003cp\u003eMae Llyfrau Melin Bapur yn falch iawn i gyflwyno Yr Hobyd, cyfieithiad i'r Gymraeg o The Hobbit, clasur ffantasi J.R.R. Tolkien am arwyr, dreigiau, hud a lledrith a lladrad. Dyma'r cyhoeddiad cyntaf o unrhyw waith gan J.R.R. Tolkien yn y Gymraeg, ac mae'r cyfieithiad gan Adam Pearce, sydd wedi cyfieithu gwaith Daniel Owen, T. Gwynn Jones ac H.G. Wells, wedi'i lunio'n dilyn cyfarwyddiadau penodol J.R.R. Tolkien i gyfieithwyr, a dan drwydded swyddogol i ystad yr awdur.\u003c\/p\u003e\u003cp\u003e\u003cbr\u003e\u003c\/p\u003e\u003cp\u003eGyda darluniau gwreiddiol J.R.R. Tolkien a fersiynau Cymraeg newydd o'r mapiau yn y nofel wreiddiol.\u003c\/p\u003e","brand":"Adam Pearce, J R R Tolkien","offers":[{"title":"Paperback","offer_id":46355459113196,"sku":"9781917237154","price":38.65,"currency_code":"USD","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0684\/1791\/3068\/files\/9781917237154.jpg?v=1744313704","url":"https:\/\/intl.allstora.com\/products\/yr-hobyd-the-hobbit-in-welsh","provider":"Allstora","version":"1.0","type":"link"}